Gwybodaeth am y Prosiect
Pwrpas y prosiect Cartrefi o Bren Cynhenid yw creu cartrefi newydd o bren sy’n perfformio’n dda ac sy’n fforddiadwy mewn ffordd sy’n gwneud y mwyaf o’r cyfleoedd i weithgynhyrchwyr lleol a phren sydd wedi’i dyfu’n lleol.
Themâu’r prosiect Cartrefi o Bren Cynhenid yw:
• mwy a gwell tai o bren
• mwy a gwell gweithgynhyrchu lleol
• mwy a gwell pren sydd wedi’i dyfu’n lleol
Nod y prosiect yw gwella’r achos busnes ar gyfer gweithgynhyrchu pren mewn ffordd sy’n gwneud y mwyaf o werth economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol i Gymru.
Mae gan Gymru’r potensial i fod yn genedl o goedwigoedd gwerth uchel. Bydd y prosiect yn edrych ar ystod o opsiynau am newid drwy’r gadwyn gyflenwi adeiladwaith pren o’r goedwig i’r cartref.
“Mae Cyngor Sir Powys yn benderfynol o ddatblygu datrysiadau arloesol i fynd i’r afael â cholli aelwydydd ifanc sy’n economaidd weithredol o’n cymunedau drwy greu swyddi o fewn tyfu, cynaeafu, prosesu a gweithgynhyrchu cartrefi o adnoddau pren naturiol a dyfir mewn cymunedau gweledig.”
Simon Inkson, Pennaeth Tai, Cyngor Sir Powys
Prif ddeilliannau o’r Prosiect Cartrefi o Bren Cynhenid:
- Astudiaethau achos adeiladwaith pren enghreifftiol wedi’u datblygu ar y cyd â chleientiaid tai cymdeithasol
- Tŷ fforddiadwy o phod addysg arddangos
- Teclynnau dylunio a chaffael i gefnogi’r symudiad i adeiladwaith pren
- Digwyddiadau gwybodaeth yn edrych ar gyfleoedd am ffenestri pren, ffrâm bren ac insiwleiddio pren
- Adroddiad ymyrraeth ar gyfer Llywodraeth Cymru ar argymhellion i wella’r gadwyn gyflenwi pren yng Nghymru
Hyd y Prosiect Cartrefi o Bren Cynhenid: Ebrill 2018 – Rhagfyr 2020
Tîm y Prosiect
Sefydliad | Prif Rôl yn y Prosiect |
Woodknowledge Wales | Rheoli Prosiect, digwyddiadau, gweithdai, astudiaethau achos, adeiladau arddangos a gweithgareddau cyfathrebu. |
Prifysgol Metropolitan Caerdydd | Mesur perfformiad yr adeilad – datblygu’r achos busnes ar gyfer adeiladwaith o bren. |
BM TRADA | Gweithgynhyrchu pren – gwella perfformiad tai o bren sy’n cael eu gweithgynhyrchu oddi ar y safle. |
Coed Cymru | Coedwigaeth a phren – datblygu’r achos busnes ar gyfer plannu a rheoli coed yng Nghymru. |
David Hedges - Rheolwr Prosiect, Cartrefi O Bren Lleol / David Hedges - Project Manager, Home-Grown Homes
Er mwyn cymryd rhan, cysylltwch â David Hedges – rheolwr prosiect Cartrefi O Bren Lleol
E-bost: david.hedges@woodknowledgewales.co.uk
Ffôn: 07989345140
Project Information
The purpose of the Home-Grown Homes project is to create high-performance and affordable new homes from wood in a manner that maximises the opportunity for local manufacturers and home-grown timber.
The Home-Grown Homes project themes are:
• more and better homes from wood
• more and better local manufacturing
• more and better home-grown timber
The project aims to improve the business case for timber construction in a way that maximises economic, environmental and social value to Wales.
Wales has the potential to become a high value forest nation. The project will look at a range of options for change through the timber construction supply chain from forest to home.
“Powys County Council is determined to develop innovative solutions to address the loss of young economically active households from our communities by creating jobs in the growth, harvesting, processing and manufacture of homes from natural timber resources grown in rural communities.”
Simon Inkson, Head of Housing, Powys County Council
Key outputs for the Home-Grown Homes Project:
- Exemplar timber construction case studies developed in collaboration with social housing clients
- A demonstration affordable house and education pod
- Design and procurement tools to support the move to timber construction
- Knowledge events exploring opportunities for wooden windows, timber frame and timber insulation
- Intervention report for Welsh Government on recommendations for improving the Welsh timber supply chain
Duration of Home-Grown Homes Project: April 2018 - December 2020
Project Team
Organisation | Main Role in Project |
Woodknowledge Wales | Project Management, events, workshops, case studies, demonstration buildings and communication activities. |
Cardiff Metropolitan University | Building performance measurement – To develop the business case for timber construction. |
BM TRADA | Timber manufacturing – improving the performance of offsite manufactured timber housing. |
Coed Cymru | Forestry and timber – developing the business case for planting and managing trees in Wales. |
Home-Grown Homes project team at kick off meeting - Cardiff Metropolitan University, May 2018
To get involved contact David Hedges – Home-Grown Homes project manager
Email: david.hedges@woodknowledgewales.co.uk
Phone: 07989345140