• Skip to primary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to primary sidebar

Woodknowledge Wales

Woodknowledge Wales

  • Bluesky
  • Facebook
  • Instagram
  • LinkedIn

Inspiring innovation through collaboration

  • About
    • Our Mission
    • Our approach
    • Our journey
    • Our impact
    • Our people
  • Projects
    • ROOT TO MARKET
    • Home-Grown Homes Project
    • Future tree species for Wales
    • Supply Chain Resilience
  • Latest News
  • Members
    • Our Members
    • Communities of Practice
    • Membership Benefits
    • Join WKW
  • Events
    • WOODBUILD 2026
    • WoodBUILD 2025
    • WoodBUILD 2024
    • WoodBUILD 2023
  • Resources
    • Case Studies
    • Guidance
    • Minecraft
    • Tools
      • ESECT
    • Reports
    • Investing in Afforestation
    • Procurement
  • Contact Us

Timber 101: Sylfeini Manylebu Pren a’r Arferion Gorau

November 4, 2026 by Woodknowledge Wales

Gwybodaeth ymarferol, glir am bren ar gyfer prosiectau go iawn

Cael dealltwriaeth ymarferol, glir ynglŷn â sut mae pren yn ymddwyn, sut y dylid ei fanylebu, a sut i wneud penderfyniadau hyderus ar brosiectau go iawn. Mae’r cwrs undydd, wyneb-yn-wyneb, penodol hwn yn cyflwyno egwyddorion creiddiol dewis rhywogaethau, dosbarthiadau cryfder, gwydnwch, ymddygiad lleithder a dosbarthiadau gwasanaeth—gan roi i’r rhai sy’n bresennol yr wybodaeth sydd ei hangen er mwyn osgoi camgymeriadau cyffredin a gwella ansawdd adeiladu.

Mae Timber 101 wedi’i gynllunio ar gyfer dylunwyr, contractwyr, syrfëwyr, coedwigwyr ac unrhyw un sy’n gweithio gyda phren ym maes adeiladu, ac mae’n cyfuno mewnwelediad technegol â chanllawiau hygyrch, sy’n seiliedig ar y byd go iawn.

Rydym yn eich arfogi â’r wybodaeth arbenigol i fanylebu pren a chynnyrch pren yn hyderus — er mwyn i chi allu sicrhau perfformiad rhagorol, cadw eich enw da, a rhoi canlyniad i’ch cleientiaid a’ch cwsmeriaid y byddant yn ymddiried ynddo am flynyddoedd. Darperir y sesiwn gan arbenigwyr o Filros Timber sydd â gwybodaeth arbenigol am briodweddau, manylebu a pherfformiad pren mewn ystod eang o gymwysiadau, ac mae’n darparu sylfaen gadarn ar gyfer defnydd cyfrifol a deallus o bren mewn prosiectau adeiladu modern amrywiol.

Mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer y rhai sy’n manylebu, dewis, gwerthu/cyflenwi, archwilio neu weithio gyda phren ym maes adeiladu, gan gynnwys:

  • Penseiri, dylunwyr a pheirianwyr sy’n gyfrifol am fanylebu cynnyrch pren a sicrhau cydymffurfiad
  • Contractwyr, rheolwyr safle a gosodwyr sy’n gweithio gyda phren ar brosiectau byw ac sy’n ceisio lleihau camgymeriadau ar safle
  • Syrfëwyr, gweithwyr proffesiynol ym maes rheoli adeiladu ac archwilwyr sy’n asesu cyflwr ac addasrwydd pren a defnydd cywir ohono
  • Cleientiaid, rheolwyr prosiectau ac arweinwyr cynaliadwyedd sy’n ceisio gwneud penderfyniadau mwy deallus ynglŷn â phren
  • Y rhai sy’n cyflenwi/gwerthu pren/cynnyrch pren er mwyn cefnogi’r rhai sy’n prynu deunyddiau ar gyfer prosiectau
  • Coedwigwyr sy’n ceisio deall pwysigrwydd priodweddau pren mewn defnydd terfynol

Byddwch yn cael y sgiliau i fanylebu pren yn gywir, y tro cyntaf.

Lleoliad: Woodknowledge Wales, 22 Ffordd yr Eglwys Gadeiriol, Pontcanna, Caerdydd CF11 9LJ
Dyddiad: 20 Ionawr 2027: 0930-1600.
Archebwch eich lle drwy Eventbrite (Disgownt archebu’n gynnar yn dod i ben ar 04 Ionawr)

Cost: Am ddim. Mae’r digwyddiad hwn wedi’i ariannu’n llawn gan Lywodraeth Cymru.

Siaradwyr: Phil O’Leary a Dr Andy Pitman, Filros Timber Consultancy

Mae Phil yn Gyfarwyddwr cwmni Filros Timber Consultancy sy’n darparu gwasanaeth ymgynghori annibynnol arbenigol yn y sector pren. Cyn hyn roedd yn bennaeth Ymgynghoriaeth Pren yn BM TRADA, yr awdurdod technegol sydd y tu ôl i TRADA. Mae gan Phil dros 30 mlynedd o brofiad ôl-gymhwyso yn gweithio gyda phren ym meysydd dylunio, manylebu, graddio strwythurol a pherfformiad pren wrth iddo gael ei ddefnyddio, ac mae wedi cyhoeddi erthyglau am wyddor pren mewn cylchgronau lleol a rhyngwladol.

Mae cefndir Phil yn cyfuno arbenigedd gwyddor pren ffurfiol, degawdau o brofiad ymarferol mewn diwydiant, arweinyddiaeth mewn safonau a sefydliadau, ac mae’n arbenigo mewn:

  1. arolygon o gyflwr adeiladau hanesyddol, asesiadau perfformiad a phennu cryfder strwythurol pren mewn llawer o sefyllfaoedd
  2. ansawdd pren, nodweddion perfformiad, dirywiad a chadwraeth
  3. gwasanaethu fel tyst arbenigol wrth geisio canfod achosion methiant pren
  4. datblygu a chyflwyno cyrsiau hyfforddiant amserol a phwrpasol, sy’n uchel eu parch, ar bynciau amrywiol sy’n gysylltiedig â phren.

Phil yw cadeirydd Pwyllgor Cadwraeth Pren y BSI ac mae’n aelod o Bwyllgor Materion Technegol, Amgylcheddol a Rheoleiddiol y Gymdeithas Gwarchod Pren. Ef hefyd yw Cadeirydd Bwrdd Woodknowledge Wales.

Tîm cyflwyno (o’r chwith i’r dde):
Dr Andy Pitman, Phil O’Leary, Dr Liz Walder

Mae Andy Pitman yn wyddonydd pren sy’n arbenigo mewn deall perfformiad pren wrth iddo gael ei ddefnyddio. Mae ganddo gymhwyster Meistr mewn Technoleg Diwydiannau Coedwigoedd a chwblhaodd ei PhD gydag Ymddiriedolaeth y Mary Rose yn ymchwilio i gadwraeth pren archaeolegol.

Mae Andy yn Gymrawd o’r IOM3, ac yn gyn Gadeirydd y Gymdeithas Technoleg Pren. Bu’n gweithio gyda BM TRADA ym maes ymchwil, datblygu a phrofi cynnyrch pren, gan gynnwys pren wedi’i addasu, ac ef yw awdur Taflen Wybodaeth am Bren TRADA, Modified Wood. Mae’n aelod o Bwyllgor Technegol y Gymdeithas Gwarchod Pren ac roedd yn aelod o Bwyllgor Safonau Prydain yn ymdrin â safonau Prydeinig ac Ewropeaidd sy’n ymwneud â gwarchod pren.

Mae Andy wedi gweithio ar draws y gadwyn gyflenwi, gan ddarparu hyfforddiant DPP i benseiri a pheirianwyr ar ran yr RIBA, Wood for Good a TRADA. Cyn gweithio gyda Filros Timber Consultancy, treuliodd bedair blynedd yn gweithio ym maes ymchwil a datblygu ar gyfer egin fusnes LIGNIA, gan datblygu pren addasedig wedi’i drin â resin. Yn sgil hyn cafodd brofiad o weithio gyda lamineiddwyr a darparwyr resin a gludyddion yn y DU ac Ewrop, gan weithio gyda buddsoddwyr a chomisiynu gwasanaethau profi o Ewrop a Gogledd America. Mae Andy wedi cael ei hyfforddi i raddio cryfder pren meddal a phren caled â’i lygad, ac mae wedi dilyn cwrs Archwilydd Arweiniol CQI IRCA ISO 9001:2015, y Cyngor Stiwardiaeth Coedwigaeth (FSC), a PEFC. Mae hefyd yn gwneud archwiliadau gweledol o ansawdd cynnyrch pren yn rheolaidd ar gyfer masnachwyr pren yn y DU.

Darperir cymorth technegol ar gyfer y digwyddiad gan Liz Walder, Woodknowledge Wales.

Filed Under: Events Tagged With: Upcoming Events

Primary Sidebar

Search

Join our mailing list

Subscribe

Join our mailing list

SUBSCRIBE

Contact Us

Woodknowledge Wales Ltd
22 Cathedral Road
Cardiff
CF11 9LJ
United Kingdom
Email:  info@woodknowledge.wales

Follow us

  • Bluesky
  • Facebook
  • Instagram
  • LinkedIn

Read our updated Privacy Policy
Copyright © 2026 Woodknowledge Wales.

We use cookies to ensure that we give you the best experience on our website. If you click OK and continue to use this site we will assume that you are happy with it.
OK Read More
Manage consent

Privacy Overview

This website uses cookies to improve your experience while you navigate through the website. Out of these, the cookies that are categorized as necessary are stored on your browser as they are essential for the working of basic functionalities of the website. We also use third-party cookies that help us analyze and understand how you use this website. These cookies will be stored in your browser only with your consent. You also have the option to opt-out of these cookies. But opting out of some of these cookies may affect your browsing experience.
Necessary
Always Enabled
Necessary cookies are absolutely essential for the website to function properly. These cookies ensure basic functionalities and security features of the website, anonymously.
CookieDurationDescription
cookielawinfo-checkbox-analytics11 monthsThis cookie is set by GDPR Cookie Consent plugin. The cookie is used to store the user consent for the cookies in the category "Analytics".
cookielawinfo-checkbox-functional11 monthsThe cookie is set by GDPR cookie consent to record the user consent for the cookies in the category "Functional".
cookielawinfo-checkbox-necessary11 monthsThis cookie is set by GDPR Cookie Consent plugin. The cookies is used to store the user consent for the cookies in the category "Necessary".
cookielawinfo-checkbox-others11 monthsThis cookie is set by GDPR Cookie Consent plugin. The cookie is used to store the user consent for the cookies in the category "Other.
cookielawinfo-checkbox-performance11 monthsThis cookie is set by GDPR Cookie Consent plugin. The cookie is used to store the user consent for the cookies in the category "Performance".
viewed_cookie_policy11 monthsThe cookie is set by the GDPR Cookie Consent plugin and is used to store whether or not user has consented to the use of cookies. It does not store any personal data.
Functional
Functional cookies help to perform certain functionalities like sharing the content of the website on social media platforms, collect feedbacks, and other third-party features.
Performance
Performance cookies are used to understand and analyze the key performance indexes of the website which helps in delivering a better user experience for the visitors.
Analytics
Analytical cookies are used to understand how visitors interact with the website. These cookies help provide information on metrics the number of visitors, bounce rate, traffic source, etc.
Advertisement
Advertisement cookies are used to provide visitors with relevant ads and marketing campaigns. These cookies track visitors across websites and collect information to provide customized ads.
Others
Other uncategorized cookies are those that are being analyzed and have not been classified into a category as yet.
SAVE & ACCEPT