Sut gall tai cymdeithasol pren arwain at dynnu carbon ar raddfa, cyd-fynd â thargedau sero net y DU a datgloi cyfleoedd economaidd, cymdeithasol ac o ran polisi.
Crynodeb
Mae’r adroddiad hwn yn dangos sut gall tai cymdeithasol weithredu fel strategaeth tynnu carbon ar raddfa fawr drwy ddefnyddio pren a deunyddiau biogenig eraill. Mae pren ym maes adeiladu yn ateb sy’n barod ar gyfer y farchnad ac y gellir ei ehangu. Mae’n lleihau allyriadau ac yn mynd ati i dynnu a storio carbon mewn adeiladau.
Gyda thair enghraifft o’r byd go iawn — Tai ar y Cyd, Agile Homes, a MAKAR — mae’r adroddiad yn dangos bod tai perfformiad uchel, sy’n cynnwys llawer o bren, eisoes yn cael eu cyflenwi ar raddfa fawr. Mae’r prosiectau hyn yn dangos sut gellir integreiddio storio carbon, gwerth cymdeithasol a modelau cyflawni arloesol i dai prif ffrwd.
Mae’r dadansoddiad yn tynnu sylw at y ffaith y gall cartrefi sy’n cynnwys llawer o bren storio llawer mwy o garbon nag adeiladu confensiynol, gyda hyd at 20 gwaith yn fwy o botensial i dynnu nwyon tŷ gwydr o’i gymharu â chartrefi gwaith maen. Mae blaenoriaethu pren lleol a gweithgynhyrchu domestig yn cynyddu’r budd hwn ymhellach ac yn cryfhau cadwyni cyflenwi’r DU ac yn creu gwerth economaidd ar yr un pryd.
Er mwyn datgloi’r cyfle hwn, mae’r adroddiad yn galw am weithredu polisi wedi’i dargedu, gan gynnwys mynnu defnyddio pren ym maes caffael cyhoeddus, creu cymhellion ariannol ar gyfer dulliau storio carbon wedi’u dilysu, cefnogi gweithgynhyrchu yn y DU, a sefydlu systemau dilysu carbon cadarn. Gyda’i gilydd, gall y mesurau hyn osod tai cymdeithasol fel conglfaen strategaeth sero net y DU.

