Deall sut gall y gadwyn gyflenwi pren ddarparu amrywiaeth o atebion yn yr amgylchedd naturiol a’r amgylchedd adeiledig.
Crynodeb
Mae’r Prosiect Cartrefi o Bren Lleol (2018 i 2026) wedi dangos sut gall cadwyn gyflenwi leol, gref ar gyfer pren gyflenwi tai cymdeithasol carbon isel gwirioneddol, gan hyrwyddo blaenoriaethau Llywodraeth Cymru o ran datgarboneiddio, tai fforddiadwy a choedwigaeth ar yr un pryd. Dyma adroddiad Cam Dau.
Roedd Cam Un (2018-2021) yn adeiladu sylfeini hanfodol drwy ymchwil, adnoddau a chanllawiau i hyrwyddo defnyddio pren lleol mewn tai cymdeithasol perfformiad uchel. Roedd Cam Dau (2023-2026) yn canolbwyntio ar weithredu, gan gefnogi’n uniongyrchol y gwaith o ddatblygu a lansio Strategaeth Ddiwydiannol gyntaf Cymru ar gyfer Pren. Mae allbynnau Cam Dau yn cynnwys adroddiadau sy’n gosod pren fel datrysiad Tynnu Nwyon Tŷ Gwydr graddadwy, adnodd penderfyniadau ynghylch carbon ymgorfforedig ESECT, dadansoddi’r gadwyn gyflenwi, rhaglenni sgiliau, ac argymhellion ymarferol ar gyfer arferion economi gylchol a datblygu coetiroedd.
Mae’r Prosiect wedi gosod sylfeini cadarn ac wedi darparu adnoddau a thystiolaeth ymarferol sydd eisoes yn siapio polisi ac arferion y diwydiant. Mae’n rhoi Cymru mewn sefyllfa i fod yn arweinydd ym maes adeiladu â phren yn gynaliadwy, gan sicrhau manteision amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd parhaol drwy barhau i gydweithio.

