

Y Prosiect Cartrefi o Bren Lleol: creu dyfodol i Gymru sy’n fwy cadarn o ran yr hinsawdd, drwy ehangu’r defnydd o bren mewn tai cymdeithasol er mwyn cyflymu’r broses o ddatgarboneiddio’r amgylcheddau naturiol ac adeiledig.
Rhwng 2018 a 2021, cafodd gwybodaeth gymhwysol o ddarparu tai cymdeithasol pren perfformiad uchel, carbon isel ei defnyddio i ysbrydoli datblygiad diwydiannau coedwigoedd Cymru ac i nodi cyfleoedd polisi allweddol.
O 2023 i 2025, mae ymdrechion wedi canolbwyntio ar gefnogi’r gwaith o weithredu polisïau newydd sy’n ymwneud â datgarboneiddio, tai cymdeithasol, coedwigaeth, a’r economi gylchol a sylfaenol. Nod y gwaith hwn yw gyrru datblygiad y sector a llywio Strategaeth Ddiwydiannol Pren gyntaf Cymru.
Gan edrych ymlaen at 2025–2027, bydd y ffocws yn symud i weithredu’r Strategaeth Ddiwydiannol Pren ar draws tai cymdeithasol, gweithgynhyrchu pren, a choedwigaeth. Bydd hyn yn gwella gwerth cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol diwydiannau coedwigaeth Cymru.
Canllawiau
Ffilmiau
Astudiaethau achos
Adnodd

Mae’r prosiect Cartrefi o Bren Lleol yn waith gan lawer o unigolion angerddol, amyneddgar a llawn dyfalbarhad ar draws nifer o sefydliadau yng Nghymru a thu hwnt. Hoffem ddiolch o galon i bawb sydd wedi bod yn rhan o’r daith hyd yma; boed hynny fel partner prosiect swyddogol, rhywun a gyfwelwyd, rhywun a gymerodd ran mewn gweithdy neu drwy roi adborth ar ein canfyddiadau a’n hargymhellion. Rydyn ni’n hynod ddiolchgar am eich holl fewnbwn, arweiniad a chyngor, ac yn bennaf am eich ymrwymiad gwych i gefnogi’r ymdrech hon.
Mae’r daith yn parhau ac rydyn ni’n edrych ar y ffyrdd gorau o weithredu, profi a gwella ein hadnoddau a’n hargymhellion ymhellach. Mae eich adborth ar ein canfyddiadau yn bwysig i ni, cysylltwch â ni .


