Deall pam mae cartrefi newydd yn aml yn tanberfformio o ran defnydd a sut gallai llwybr Sicrhau Ansawdd helpu i gau’r bwlch mewn perfformiad a chyflenwi cartrefi gwell yng Nghymru.
Crynodeb
Mae cartrefi newydd yng Nghymru yn aml yn defnyddio mwy o ynni na’r disgwyl, gan arwain at filiau uwch, anghysur, anwedd a llwydni. Mae modd atal y “bwlch perfformiad” hwn drwy ddylunio, adeiladu a dilysu’n well.
Mae’r adroddiad yn edrych ar beth sy’n achosi’r bwlch ac yn cynnig llwybr Sicrhau Ansawdd chwe cham clir gyda meincnodau mesuradwy yn y cam dylunio, dilysu yn ystod y gwaith adeiladu, a gwiriadau perfformiad gwirioneddol ar ôl i bobl symud i mewn i’r cartrefi. Tynnir sylw at bwysigrwydd Gwerthuso Perfformiad Adeiladau ynghyd â’r rhoi’r llwybr ar waith ym mhrosiect Tai ar y Cyd a’i berthnasedd i gyflenwi tai yn ehangach. Wrth wneud hynny, mae’n amlinellu sut gall y dull hwn alluogi newid o gydymffurfio syml i hyder sy’n seiliedig ar dystiolaeth mewn ansawdd tai. Mae’r adroddiad yn darparu argymhellion ymarferol i gefnogi darparwyr tai i gyflenwi cartrefi sy’n perfformio yn ôl y bwriad: gwella cysur, lleihau allyriadau carbon, a lleihau costau tymor hir.

