Mae’r astudiaeth hon yn archwilio profiadau ffermwyr yr ucheldir yng nghanolbarth Cymru sydd wedi sefydlu coetiroedd ar eu ffermydd, ochr yn ochr â gwybodaeth gan gynghorwyr coedwigaeth sy’n gweithio gyda busnesau ffermio ledled Cymru. Mae’n archwilio’r cymhellion, yr heriau a’r cyfleoedd sy’n gysylltiedig ag integreiddio coed i fusnesau fferm.
Crynodeb
Mae’r astudiaeth hon yn cyfuno safbwyntiau ffermwyr sydd eisoes wedi sefydlu coetiroedd ar eu ffermydd â gwybodaeth gan gynghorwyr sy’n gweithio ar draws tirweddau amaethyddol yng Nghymru. Mae’r ffermwyr hyn yn fabwysiadwyr cynnar o ran creu coetiroedd, ac yn rhoi cipolwg gwerthfawr ar sut gellir integreiddio coed yn llwyddiannus i fusnesau fferm yn ymarferol.
Mae’r astudiaeth, sy’n cael ei chynnal yn bennaf mewn Ardaloedd Llai Ffafriol ar yr ucheldir yng nghanolbarth Cymru, yn archwilio pam mae ffermwyr yn dewis integreiddio coed i’w busnesau fferm, yr heriau maent yn dod ar eu traws, a’r cyfleoedd y gall coetir eu darparu.
Roedd y ffermwyr a gymerodd ran yn yr astudiaeth yn gadarnhaol am goetir lle’r oedd yn darparu manteision ymarferol ac ariannol clir. Roedd y rhain yn cynnwys arallgyfeirio ffermydd, gwella gwydnwch busnes, grantiau sefydlu coetiroedd, lloches i dda byw, ac incwm hirdymor posibl o bren. Tynnodd nifer o ffermwyr sylw at werth gallu sefydlu coetiroedd a gwneud gwaith rheoli eu hunain gan ddefnyddio sgiliau a pheiriannau presennol y fferm.
Roedd ffermwyr a chynghorwyr yn cydnabod y potensial i goetiroedd fferm gyfrannu at fusnesau fferm mwy gwydn ac at gadwyni cyflenwi pren Cymru yn y dyfodol. Fodd bynnag, nododd yr ymchwil hefyd rwystrau a all atal defnydd ehangach, gan gynnwys prosesau rheoleiddio cymhleth, amserlenni cymeradwyo hir, gofynion rhagnodol y cynllun, a phryderon am golli tir amaethyddol cynhyrchiol.
Tynnodd yr astudiaeth sylw hefyd at wahaniaethau mewn pwyslais rhwng ffermwyr a chynghorwyr. Er bod cynghorwyr yn aml yn cyfeirio at gyfleoedd sy’n gysylltiedig â marchnadoedd carbon, roedd y rhan fwyaf o ffermwyr yn blaenoriaethu ystyriaethau busnes fferm ymarferol fel sefydlogrwydd ariannol hirdymor, cynhyrchu pren, a defnyddio tir sy’n llai addas i amaethyddiaeth mewn ffordd fwy cynhyrchiol. Nododd ffermwyr hefyd fod creu coetiroedd yn cael ei gyfleu’n aml drwy naratifau amgylcheddol, gyda llai o bwyslais ar ei rôl bosibl fel cnwd cynhyrchiol o fewn busnes y fferm.
Ar y cyfan, mae’r canfyddiadau’n tynnu sylw at bwysigrwydd perthnasoedd dibynadwy, cyfathrebu ymarferol ac enghreifftiau dan arweiniad ffermwyr wrth annog creu coetiroedd. Mae’r wybodaeth hon yn cyflwyno gwersi ymarferol i ffermwyr a allai fod yn ystyried creu coetiroedd fel rhan o’u busnes fferm yn y dyfodol.
Argymhellion allweddol
- Mwy o hyblygrwydd mewn cynlluniau creu coetiroedd
- Gwell dysgu rhwng cyfoedion gan ffermwyr sydd eisoes wedi sefydlu coetiroedd
- Cyfathrebu gwell yn cyflwyno coetir fferm fel cnwd cynhyrchiol drwy rwydweithiau a llwyfannau ffermio dibynadwy
- Cysylltiadau cliriach rhwng coetiroedd fferm a chadwyni cyflenwi pren
- Llai o fiwrocratiaeth a mwy o ddulliau gweithredu sy’n cael eu harwain gan ffermwyr.
Mae profiadau’r ffermwyr hyn sy’n fabwysiadwyr cynnar yn rhoi cipolwg ymarferol ar sut gall creu coetiroedd gefnogi busnesau fferm gwydn ac uchelgeisiau ehangach y Strategaeth Ddiwydiannol ar gyfer Pren.

