

Ysbrydoli arloesedd drwy gydweithio
Mae economi ffyniannus sy’n seiliedig ar goedwigoedd yn gonglfaen hanfodol i gymdeithas gynaliadwy. Mae’r sector coedwigaeth yn darparu adnodd carbon isel gwerthfawr i ddiwydiant a chyflogaeth werth chweil i filoedd lawer o bobl. Mae coetiroedd sy’n cael eu rheoli’n dda yn cyfrannu at liniaru newid yn yr hinsawdd, atal llifogydd, iechyd pridd, aer glân, bioamrywiaeth ac yn galluogi sawl math o hamdden sy’n fuddiol i’n hiechyd a’n lles.
Mae gwneud y defnydd gorau o bren wedi’i dyfu’n lleol, defnyddio mwy o goed o goedwigoedd sy’n cael eu rheoli’n gynaliadwy a thyfu mwy o goed yn dda i’n heconomi, i’n hamgylchedd ac i’n pobl.
Rydyn ni’n sefydliad nid-er-elw er lles y cyhoedd sy’n hyrwyddo’r gwaith o ddatblygu diwydiannau seiliedig ar goedwigoedd ar y cyd er mwyn sicrhau mwy o ffyniant a lles yng Nghymru.
Rydyn ni’n cyflawni ein cenhadaeth drwy nifer o brosiectau sy’n dod â rhanddeiliaid at ei gilydd ar wahanol lefelau o ddiwydiant a chymdeithas. Mae ein prosiectau yn cyfuno ymchwil gymhwysol, arloesi o ran dylunio cynnyrch, gweithgynhyrchu, systemau neu wasanaethau, polisi ac ymgysylltu â rhanddeiliaid ar draws tai ac adeiladu, yn seiliedig ar yr economi goedwigoedd. Dysgwch ragor am ein prif brosiectau cyfredol. Cysylltwch â ni os oes gennych syniad am brosiect yr hoffech ei gyflwyno i ni.

Sut allai cadwyn gyflenwi pren sy’n seiliedig ar gynnyrch coedwigaeth lleol fod o gymorth i ddarparu tai cymdeithasol carbon isel yng Nghymru a chreu swyddi gwell yn nes at adref? Dysgwch ragor ar y ▸▸ dudalen Cartrefi o Bren Lleol.

Grŵp cynhwysol ar draws sectorau o arloeswyr adeiladu, sy’n archwilio modelau newydd ar gyfer adeiladu gyda deunyddiau atgynhyrchiol, fel pren wedi’i dyfu’n lleol a dur wedi’i adfer. Dysgwch ragor ar y ▸▸ dudalen Deunyddiau Atgynhyrchiol Gyntaf.
Prosiectau tai pren enghreifftiol yng Nghymru
Archwiliwch wybodaeth am adeiladu, cynnyrch arloesol, y defnydd o bren sy’n cael ei dyfu’n lleol a gweithgynhyrchu yng Nghymru, effaith carbon a pherfformiad adeiladu mewn prosiectau tai pren arloesol ledled Cymru.
Mae’r map hwn yn arddangos y prosiectau tai pren enghreifftiol y mae Woodknowledge Wales wedi gweithio arnynt mewn rhyw ffordd dros y blynyddoedd diwethaf. Mae haen y Prosiect Tai Enghreifftiol yn cynnwys gwybodaeth sylfaenol am y prosiect. Mae’r haen Carbon Oes Gyfan yn cynnwys data ar effaith carbon y prosiectau hynny yr ydym wedi cynnal dadansoddiadau ar eu cyfer. Mae’r haen Perfformiad Adeiladu yn cynnwys prosiectau lle rydym wedi arbrofi rhywfaint ar wahanol ddulliau o berfformiad adeiladau. Mae’r haen Priodoledd Coedwig Genedlaethol yn ceisio cofnodi stori’r coed fel defnyddio cynnyrch arloesol, defnyddio pren wedi’i dyfu’n lleol a defnyddio gweithgynhyrchu yng Nghymru.
Mae’r map hwn yn dangos ein cynnydd hyd yma. Byddwn yn parhau i gofnodi cynnydd ein hagenda datblygu pren yn ogystal â chynnydd tai Cymru o ran ateb her carbon oes gyfan Sero Net dros y blynyddoedd nesaf.

Cymerwch ran
Ymunwch â’n cymuned fywiog. Rydym yn adeiladu rhwydwaith cydweithredol gyda’r pŵer ar y cyd i sbarduno newid.
Mae ein gweithgareddau’n canolbwyntio ar ddatblygu’r farchnad, meithrin gallu, cefnogaeth dechnegol a darparu sgiliau yn y sector coedwigaeth, gweithgynhyrchu a thai. Daw ein haelodau a’n cefnogwyr o bob lefel o’r gadwyn gyflenwi ar gyfer tai ac adeiladu. Gyda’n gilydd, rydym yn cymryd rhan mewn arloesi cydweithredol ac yn cyflawni newid traws-sector. O dan arweiniad ein rhwydwaith o aelodau, cefnogwyr a phartneriaid cyflawni, mae Woodknowledge Wales yn gyrru’r agenda i ehangu diwydiannau coedwigaeth ac sy’n defnyddio pren yng Nghymru er budd cymdeithas a’r blaned.
Ein haelodau

Podlediadau

Dyma gyfres o sgyrsiau 60 munud ar themâu ar draws Coedwigaeth, Gweithgynhyrchu, Tai a’r Economi Sylfaenol. Mae pob podlediad yn cynnwys dau unigolyn sy’n frwd dros y pwnc ac sy’n barod i rannu eu syniadau.